
Croeso i wêfan holl newydd cangen Ysgol Gyfun Ystalyfera o GymruX. Ewch i’r adran “Gwybodaeth am GymruX” am ragor o wybodaeth am CymruX, sef adain ieuenctid Plaid Cymru.
Ym mis Medi 2009, sefydlir cangen o GymruX yn yr ysgol gan ddau disgybl ym mlwyddyn 12 yr ysgol, sef Cerith Rhys Jones a Jenny Ann Hopkin. Mae gan y ddau ohonnynt ddiddordeb enfawr yng ngwleidyddiaeth, ac y maent yn disgwyl ymlaen at waith y cangen yn eu dwy flynedd olaf yn yr ysgol cyn symud i’r Brifysgol.
Yn aml iawn, ‘roedd Cerith a Jenny’n teimlo, y mae pobl ifainc yn ystyried gwleidyddiaeth fel rywbeth diflas ac hen-ffasiwn. Ond, ‘roedden nhw am roi modd i fyfyrwyr ifainc yr ysgol i leisio’u barn nhw ac i ddod i sylweddoli fod gwleidyddiaeth yn beth difyr, mwynhaus a bywiog. Dyna wrth gwrs, yw amcan CymruX yn gyfangwbl – i roi modd i bobl ifainc Cymru ymwneud â phrosesau gwleidyddol Cymru.
Mae rhai pobl yn meddwl o’r gair ‘gwleidyddiaeth’ neu ‘politics’ i fod yn gyfystyr i ddisgrifio dynion moel, canol oed yn San Steffan. Ond gall gwleidyddiaeth fod yn llawer mwy! Nawr fod gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddatganoli oddi wrth Lywodraeth Canolig, mae mor gymaint o ddrysau wedi agor sy’n gwneud gwleidyddiaeth yn rhywbeth perthnasol iawn o bobl ifainc Cymru.
‘Roedd Cerith a Jenny wedi’u synnu gan y maint o bobl oedd yn dweud “Na, ‘dw i ddim yn hoffi gwleidyddiaeth” ond eto’n gynddeiriog pan enillodd y BNP ddau sedd yn Senedd Ewrop yn yr etholiadau ym mis Mai 2009; sawl person sy’n teimlo’n gryf am ffioedd atodol dysgu yng Nghymru; sawl person sy’n teimlo’n gryf dros yr iaith Gymraeg; sawl person sy’n teimlo’n gryf am hawliau cyfartal i’r lleiafrifoedd; sawl person sy’n teimlo’n gryf am anhegwch ac anghyfiawnder ar draws y byd; sawl person sy’n teimlo’n gryf dros ddyfodol y Ddaear; sawl person sy’n teimlo’n gryf dros yr economi a llawer mwy o bynciau, ond eto’n dweud does ganddyn ddim diddordeb mewn gwleidyddiaeth.
Bydd cangen Ysgol Gyfun Ystalyfera o GymruX yn rhoi modd i fyfyrwyr ifainc yr ysgol ymgyrchu dros y pethau yma, mewn cyd-testun o bolisïau, ymgyrchoedd a gwaith ehangach CymruX a Phlaid Cymru.
Gobeithiwn ichi fwynhau’n gwêfan.
Gwefan CymruX: http://www.cymrux.plaidcymru.org/
Blog CymruX: http://www.cymru-x.blogspot.com/
Gwefan y Blaid: http://www.plaidcymru.org/Am newyddion Plaid: http://www.plaidlive.com
Gyda llaw, rydym wedi ymgeisio i restru'n gwefan ar dmoz.org, sef "Open Directory Project" sy'n ei wneud hi'n haws canfod y wefan ar bethau megis Google ac yn y blaen.